Merion, Pennsylvania

Merion
Mathcymuned heb ei hymgorffori, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,741 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMontgomery County, Pennsylvania Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau39.9933°N 75.2511°W Edit this on Wikidata
Map

Cymuned heb ei hymgorffori (unincorporated community) ym Montgomery County, talaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America, yw Merion.[1] Saif ychydig i'r gorllewin o ddinas Philadelphia. Sefydlwyd Merion gan Grynwyr a ymfudodd o Sir Feirionnydd yng Nghymru. Mae Tŷ Cwrdd Cyfeillion Merion, a adeiladwyd gan y Cyfeillion (Crynwyr) Cymreig ym 1695, yn cael ei ystyried yn National Historic Landmark, sef adeilad a gaiff ei gydnabod yn swyddogol gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau am ei arwyddocâd hanesyddol, eithriadol.

  1. "Gwefan Cymdeithas Ddinesig Merion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-25. Cyrchwyd 2014-12-22.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy